Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

CLA(4)-19-14

 

CLA417 - Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer trwyddedu personau sy'n ymwneud â bridio cŵn. Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau yn diffinio bridio cŵn at ddibenion adran 13(1) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Canlyniad y dynodiad hwnnw, yn ddarostyngedig i feini prawf cymhwyso, yw bod yn rhaid i unrhyw berson sy'n dymuno bridio cŵn yng Nghymru gael trwydded gan ei awdurdod lleol o dan y Rheoliadau hyn. Mae'r gofyniad hwn yn disodli'r gofyniad i gael trwydded o dan Ddeddf Bridio Cŵn 1973 yng Nghymru.

 

GweithdrefnCadarnhaol

 

Materion technegol: craffu

 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

 

Craffu ar y Rhinweddau

 

O dan Reol Sefydlog 21.3, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn hwn ar y sail a ganlyn:-

 

1. 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

 

1.1     Y ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer bridio cŵn yw Deddf Bridio Cŵn 1973 (fel y'i diwygiwyd). Mae'r gofynion ar gyfer bridio yn seiliedig ar fridiwr sy'n cynhyrchu pump neu ragor o dorllwythi y flwyddyn. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu'r gyfundrefn drwyddedu bresennol ac yn pennu cyfundrefn newydd. Mae'r Memorandwm Esboniadol yn datgan bod y prif gynigion polisi o fewn y Rheoliadau newydd yn cynnwys:

 

1.2     Mae'r Rheoliadau hyn yn mynd i'r afael â'r sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor mewn perthynas â'r Rheoliadau drafft a osodwyd ar 11 Mehefin 2013, ac a dynnwyd yn ôl ar 5 Gorffennaf 2013. Mae copi o adroddiad blaenorol y Pwyllgor ynghlwm yn Atodiad A.

 

 1.3     Bydd y Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2014. Yn ei adroddiad CR-LD9788 ystyriodd y Pwyllgor amseriad y diwygiadau i'r Bil Dadreoleiddio a sut y gallai hyn effeithio ar y ddeddfwriaeth hon.  Mae copi o'r adroddiad ynghlwm yn Atodiad B. Os na fydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cychwyn y darpariaethau yn y Ddeddf (unwaith y caiff ei phasio) cyn diwedd y flwyddyn, bydd yn rhaid i fridwyr cŵn trwyddedig yng Nghymru, er enghraifft, roi coler ar gi bach ag arno dag neu fathodyn adnabod, cyn gwerthu’r ci bach i siop anifeiliaid anwes drwyddedig, er y bydd angen i'r ci bach gael ei ficrosglodynnu cyn iddo gael ei werthu, yn unol â'r Rheoliadau hyn.

 

2.     21.3 (v) - nad yw’n gwireddu ei amcanion polisi yn berffaith

2.1     Ar dudalen 14 o'r Memorandwm Esboniadol, mae Llywodraeth Cymru yn datgan fel a ganlyn:

 

Microchipping has clear welfare benefits, namely reinforcing an owner’s responsibilities under the Animal Welfare Act 2006. It would allow vets to contact owners of stray dogs in situations where emergency treatment is required. The greater traceability would assist enforcement officers greatly in situations such as dog theft, animal cruelty or if a puppy sold by a breeder has health problems as a direct result of the conditions in which it was raised. It would also assist in situations where the true ownership of a dog need to be proven.

 

2.2     Cyfeiriwn at baragraffau 2.4 – 2.12 a 2.20 – 2.28 o CLA 416 (Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Adnabod Cŵn) (Cymru)) gan fod yr un pryderon yn codi ynghylch y diffyg safonau ar gyfer y microsglodion a'r gweithredwyr cronfeydd data a allai amharu ar olrhain, ac felly lleihau unrhyw fuddion lles.

 

2.3     Yn wahanol i Reoliadau Lles Anifeiliaid (Adnabod Cŵn) (Cymru) 2014, mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau ar gyfer gorfodi, ond nid mewn perthynas â microsglodion. Er bod rheoliad 20 yn darparu y caiff yr awdurdod lleol gymryd samplau poer neu wallt o unrhyw gi ar eiddo a feddiennir gan ddeiliad y drwydded, er mwyn cynnal profion DNA i sicrhau y cydymffurfir â'r darpariaethau yn y Rheoliadau, nid oes unrhyw bŵer i ganiatáu i awdurdodau lleol sganio ci am ficrosglodyn. Felly, nid oes dull o wirio bod naill ai cŵn llawndwf neu gŵn bach yn cael eu microsglodynnu oni bai bod y bridiwr, neu'r perchennog newydd (yn achos ci bach sydd wedi gadael y safle) yn cydsynio, neu lle mae rhai pryderon lles.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Mehefin 2014

 

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddilyn.

Atodiad A

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

CLA276 - Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2013

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer trwyddedu personau sy'n ymwneud â bridio cŵn Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau yn diffinio bridio cŵn at ddibenion adran 13(1) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Canlyniad y dynodiad hwnnw, yn ddarostyngedig i griteria cymhwyso, yw bod rhaid i unrhyw berson sy’n dymuno bridio cŵn yng Nghymru gael trwydded gan ei awdurdod lleol o dan y Rheoliadau hyn. Mae'r gofyniad hwn yn disodli'r gofyniad i gael trwydded o dan Ddeddf Bridio Cŵn 1973 yng Nghymru.

 

 

GweithdrefnCadarnhaol

 

Materion craffu: technegol

 

 

O dan Reol Sefydlog 21.2, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

1. Mae Rheoliad 24 yn cymhwyso nifer o bwerau ôl-gollfarnau perthnasol a fyddai'n gymwys mewn perthynas â chollfarn am drosedd o dorri amod trwydded. Y pwerau hyn yw gwahardd, canslo trwydded a / neu wahardd rhag dal trwydded ac atafaelu anifeiliaid. Caiff 'pŵer ôl-gollfarnau perthnasol' ei ddiffinio yn Adran 62 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 er ei fod yn cynnwys adrannau 34 (gwaharddiad) a 42 (gorchmynion o ran trwyddedau), nid yw'n cynnwys Adran 35 (atafaelu). Fodd bynnag, byddai Adran 35, er nad yw'n 'bŵer ôl-gollfarnau perthnasol' ar gael i Lys pe bai Gorchymyn yn cael ei wneud o dan Adran 34 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 -

 

23 (vi) - ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

 

Rhinweddau: craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.3, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

1. Y ddeddfwriaeth bresennol ar gyfer bridio cŵn yw Deddf Bridio Cŵn 1973 fel y'i diwygiwyd; mae'r gofynion ar gyfer bridio yn seiliedig ar fridiwr sy'n cynhyrchu 5 neu fwy o dorllwythi y flwyddyn. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu'r gyfundrefn drwydded bresennol ac yn gorfodi cyfundrefn newydd. Mae'r memorandwm esboniadol yn datgan bod y prif gynigion polisi o fewn y Rheoliadau newydd yn cynnwys:

·         meini prawf trwyddedu mwy caeth;

·         y gofyniad i osod microsglodyn ym mhob ci cyn ei fod yn 56 diwrnod oed neu cyn gadael y man bridio, pa un bynnag sydd hwyraf;

·         cymhareb staff:ci sydd yn bodloni'r isafswm staffio;

·         safoni'r isafswm oedran y gall ci bach adael y man bridio; a'r

·         angen i sefydliadau bridio gyflwyno rhaglenni cymdeithasu a rhaglenni cyfoethogi a gwella'r amgylchedd.

 

21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

 

1. Mae Rheoliad 8 (2) yn darparu ar gyfer cymhareb staff:ci o 1 gofalydd llawn amser ar gyfer pob 20 ci a gedwir neu un gofalydd rhan-amser ar gyfer pob 10 ci a gedwir Ni chaiff 'cŵn' eu diffinio'n benodol naill ai yn y Rheoliadau nac yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006. Gan fod cŵn bach, geist bridio a chŵn gre i gyd yn cael eu cyfeirio atynt fel cŵn yn rheoliad 3, byddai'r gofyniad yn rheoliad 8 (2) yn golygu bod un gofalydd llawn amser yn gyfrifol am 20 ci, gan gynnwys cŵn bach. Ymddengys o Ddatganiad y Gweinidog ar 11 Mehefin 2013 bod y ffigur o 20 ci yn eithrio unrhyw gŵn bach a gaiff eu geni i'r anifeiliaid hynny.  Yn ogystal, mae'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar dudalen 5 o'r Memorandwm Esboniadol yn costio'r cynigion ar y sail bod 1 person yn gyfrifol am 20 ci, gan gynnwys eu cŵn bach, ond nid dyna y mae'r ddeddfwriaeth yn darparu ar ei gyfer.

 

Gan y bydd y gymhareb berthnasol ofynnol o ran staff:ci yn amod ar gyfer unrhyw drwydded, ac y gallai methu â chydymffurfio â hynny olygu y gallai unigolyn gael ei ddirwyo neu ei garcharu ymysg materion eraill, rhaid i'r rhai sy'n gweithredu'r cynllun, a'r rhai a gaiff eu rheoli ganddo fod yn glir o ran bwriad y Llywodraeth ac a yw'n fwriad i ffigur y gymhareb gynnwys cŵn bach ai peidio.

 

21.3 (v) - nad yw’n gwireddu ei amcanion polisi yn berffaith a 21.2 (v) bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

 

 

 

 

Ymateb Llywodraeth Cymru i ddilyn:

 

 

 

 

 

Atodiad B

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

19 Mehefin 2014

 

 

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Adroddiad:

Y Bil Dadreoleiddio: Gwelliannau mewn perthynas â Deddf Daliadau Amaethyddol 1986, Deddf Bridio Cŵn 1973 a Deddf Bridio a Gwerthu Cŵn (Lles) 1999

 

 

Cefndir

1.       Ar 22 Ebrill 2014, cyflwynodd Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (Memorandwm) atodol ynghylch gwelliannau a gyflwynwyd i’r Bil Dadreoleiddio ("y Bil"), yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

2.       Ar 29 Ebrill 2014, cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Memorandwm at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i graffu arno, gan bennu 19 Mehefin 2014 fel dyddiad olaf ar gyfer adrodd yn ôl ar y Memorandwm.

Y Bil Dadreoleiddio

4.       Cyflwynwyd y Bil yn Nhŷ’r Cyffredin ar 23 Ionawr 2014 a chafodd ei Ail Ddarlleniad ar 3 Chwefror 2014. Mae yn y cyfnod adrodd ar hyn o bryd, ar ôl cael ei drosglwyddo i sesiwn 2014-15.

5.       Mae’r Bil yn cynnig amrywiaeth o fesurau yn unol â nod Llywodraeth y DU o leihau baich ar fusnesau ac awdurdodau cyhoeddus. Mae ei gwmpas yn cynnwys iechyd a diogelwch, cyfraith gyflogaeth, cyfraith cwmnïau ac ansolfedd, defnyddio tir, tai, trafnidiaeth, cyfathrebu, yr amgylchedd, Cronfeydd Ymddiriedolaeth Plant, adloniant, cyfiawnder troseddol a thwf economaidd.

6.       Ym mis Gorffennaf 2013, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Fil Dadreoleiddio drafft, a oedd yn destun gwaith craffu cyn deddfu, gan Gydbwyllgor dau Dŷ’r Senedd.

7.       Gwnaethom drafod Memorandwm i’r Bil Dadreoleiddio ar 31 Mawrth 2014 gan nodi yn ein hadroddiad, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 1 Mai 2014, ein bod yn fodlon arno.

Darpariaethau y mae arnynt angen cydsyniad y Cynulliad

8.       Rhoddir manylion am ddarpariaethau newydd y Bil y byddai arnynt angen cydsyniad y Cynulliad ym mharagraffau 5-18 o’r Memorandwm atodol.

Trafodaeth        

9.       Trafodwyd y Memorandwm yn ein cyfarfod ar 19 Mai 2014 ac mae Atodiad 1 i’r adroddiad hwn yn cynnwys y papur a oedd yn sail i’n trafodaethau.

10.     Rydym yn nodi’r sylwadau a wnaed yn y Memorandwm o ran deddfwriaeth ynghylch cŵn, ac yn enwedig y ffaith y bwriedir gosod a gwneud Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 cyn toriad yr haf.

11.     Ar 2 Gorffennaf 2013, gwnaethom adrodd yn ôl ar Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2013, gan wahodd y Cynulliad i dalu sylw yn arbennig at yr offeryn ar faterion technegol a rhinweddau. Cafodd y rheoliadau, a oedd yn destun y weithdrefn gadarnhaol, eu tynnu yn ôl ar ôl hynny gan Lywodraeth Cymru ar 5 Gorffennaf 2013 a chyflwynwyd datganiad ysgrifenedig ar yr un diwrnod, yn egluro’r rheswm am y penderfyniad.

12.     Yn ein hadroddiad ym mis Tachwedd 2013, Ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i’r Pwerau a roddir i Weinidogion Cymru yn Neddfau’r DU: Adolygiad o’r Canlyniadau, gwnaethom fynegi rhai pryderon bod Llywodraeth Cymru wedi atal ei Bil Rheoli Cŵn (Cymru) arfaethedig er mwyn ystyried defnyddio Bil y DU i weithredu ei hamcanion polisi yn y maes hwn. Roeddem yn pryderu’n arbennig am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn fwy hwylus i gael gafael ar ddeddfau.

13.     Yn ein barn ni, un o ganlyniadau defnyddio’r dull a nodir yn y Memorandwm yw ei fod yn arwain at fwy o gymhlethdod ac ansicrwydd ynghylch agweddau penodol ar bolisi a deddfwriaeth o ran cŵn yng Nghymru.

14.     Mae paragraff 24 o’r papur yn Atodiad 1 i’n hadroddiad yn mynegi ein pryderon ynghylch gwelliannau i’r Bil Dadreoleiddio, yn enwedig o ran y pwerau cychwyn y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gyfrifol amdanynt. Gall y drefn o rannu pwerau rhwng Gweinidogion Cymru a Gweinidogion y DU, ynghyd â threfniadau cydweithio aneffeithiol rhwng y gweinyddiaethau yma ac yn San Steffan, arwain at ddryswch deddfwriaethol (ac mae’n ymddangos bod hynny wedi digwydd yn dilyn datganiad ysgrifenedig y Gweinidog ar 21 Mai 2014 ynghylch deddfwriaeth ar les anifeiliaid adeg eu lladd). Mae dryswch o’r fath yn gwneud niwed i bobl yng Nghymru y mae’r ddeddfwriaeth yn effeithio arnynt.

15.     Byddem yn annog y Gweinidog i sicrhau nad yw’r peryglon posibl a nodwyd ym mharagraff 24 o’r papur yn Atodiad 1 i’n hadroddiad yn codi, a bod rhanddeiliaid, yn unol â hynny, yn cael gwybodaeth glir a chyson am gynnydd y materion y mae paragraff 24 yn eu cwmpasu.

Gwybodaeth a geir yn y Memorandwm atodol 

16.     Gosodwyd y Memorandwm atodol gerbron y Cynulliad ar 22 Ebrill 2014. Cyflwynwyd y gwelliannau i’r Bil y mae’r Memorandwm hwnnw’n ymdrin â hwy ar 13 Mawrth 2014.

17.     Derbyniwyd y gwelliannau ym Mhwyllgor y Bil yn San Steffan ar 18 a 25 Mawrth 2014. O ystyried i’r Memorandwm gael ei osod gerbron y Cynulliad ar 22 Ebrill 2014, rydym o’r farn y byddai wedi bod yn ddefnyddiol nodi’r ffaith honno’n glir yn y Memorandwm. At hynny, byddai wedi bod yn ddefnyddiol nodi pwy gyflwynodd y gwelliannau a’r rhifau perthnasol a roddwyd i’r gwelliannau er mwyn gallu olrhain eu hynt yn ystod y trafodion yn Nhŷ’r Cyffredin.

18.     Yn ein barn ni, materion arfer da yw’r hyn a godir ym mharagraff 17, a byddem yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu’n unol â’r arfer hwnnw yn y dyfodol.

Atodiad 1

 

Paratowyd y ddogfen hon gan gyfreithwyr Cynulliad Cenedlaethol Cymru er mwyn rhoi gwybodaeth a chyngor i Aelodau’r Cynulliad a’u cynorthwywyr ynghylch materion dan ystyriaeth gan y Cynulliad a’i bwyllgorau ac nid at unrhyw ddiben arall. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a’r cyngor a geir yn y ddogfen hon yn gywir, ond ni dderbynnir cyfrifoldeb am unrhyw ddibyniaeth a roddir arnynt gan drydydd parti.

 

This document has been prepared by National Assembly for Wales lawyers in order to provide information and advice to Assembly Members and their staff in relation to matters under consideration by the Assembly and its committees and for no other purpose. Gwnaed pob ymdrech i sicrhau bod yr wybodaeth a’r cyngor a geir yn y ddogfen hon yn gywir, ond ni dderbynnir cyfrifoldeb am unrhyw ddibyniaeth a roddir arnynt gan drydydd parti.

 

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

MEMORANDWM CYDSYNIAD DEDDFWRIAETHOL ATODOL

 

Y BIL DADREOLEIDDIO: GWELLIANNAU YNGHYLCH DEDDF DALIADAU AMAETHYDDOL 1986, DEDDF BRIDIO CŴN 1973 A DEDDF BRIDIO A GWERTHU CŴN (LLES) 1999

 

Nodyn Cyngor Cyfreithiol

Cyflwyniad

1.       Cyflwynwyd y Bil Dadreoleiddio ("y Bil") yn Nhŷ’r Cyffredin ar 23 Ionawr 2014 ac mae yn y cyfnod adrodd ar hyn o bryd. Penderfynwyd y byddai trafodion y Bil yn cael eu trosglwyddo i’r sesiwn Seneddol nesaf.

2.       Gosododd Alun Davies AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ("Memorandwm") ynghylch y Bil ar 24 Chwefror 2014. Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm ar 31 Mawrth 2014. Yn dilyn hynny, gosododd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Memorandwm ar 1 Mai 2014.

3.       Ar 22 Ebrill 2014, gosododd Alun Davies AM Femorandwm atodol yn sgîl gwelliannau a gyflwynwyd i’r Bil.

Cefndir

4.       Amcanion polisi Llywodraeth y DU ar gyfer y Bil yw dileu neu leihau beichiau rheoleiddiol diangen sy’n rhwystro neu’n arwain at gostau i fusnesau, unigolion, gwasanaethau cyhoeddus neu drethdalwyr. Mae’n cynnwys mesurau sy’n ymwneud â meysydd busnes cyffredinol a phenodol sy’n cwmpasu meysydd amrywiol, o adloniant i weinyddu cyfiawnder.

Y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

5.       Mae’r Memorandwm atodol yn nodi gwelliannau i’r Bil, a gyflwynwyd yng nghyfnod Pwyllgor y Bil yn Nhŷ’r Cyffredin, sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol a cheisir ei gydsyniad mewn perthynas â hwy.

Diwygio Deddf Daliadau Amaethyddol 1986

6.       Mae Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 yn berthnasol i denantiaethau amaethyddol a drefnwyd cyn 1 Medi 1995 a rhai tenantiaethau a drefnwyd ar ôl y dyddiad hwnnw. Mae’n rheoli’r berthynas rhwng y landlord a’r tenant, yn ogystal â rhoi sicrwydd deiliadaeth a hawliau olyniaeth, gan reoleiddio telerau’r denantiaeth a darparu ar gyfer iawndal i’r tenant neu’r landlord o dan rai amgylchiadau.

7.       Ar hyn o bryd, mae Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 yn darparu tair ffordd o ddatrys anghydfodau rhwng landlordiaid a thenantiaid, gan gynnwys cymrodeddu.

8.       Mae’r Memorandwm yn nodi mai cymrodeddu yw’r brif ffordd o ddatrys anghydfodau ar hyn o bryd, a gellir atgyfeirio’r rhan fwyaf o anghydfodau o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 yn orfodol i gam cymrodeddu.

9.       Cytunwyd ar welliannau a gyflwynwyd i’r Bil sy’n ymwneud â Deddf Daliadau Amaethyddol 1986 gan Bwyllgor Biliau Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin ar 25 Mawrth 2014.

10.     Byddai’r gwelliannau yn galluogi’r partïon sy’n rhan o rai anghydfodau o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986, i gael eu hatgyfeirio at arbenigwr annibynnol a gyfarwyddir ar y cyd, er mwyn gwneud penderfyniad arnynt drwy drydydd parti yn hytrach na thrwy gymrodeddu. Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd hyn yn sicrhau proses llai ffurfiol, rhatach a chyflymach o ddatrys anghydfodau.

12.     Pan gynigiodd y gwelliant yn y Pwyllgor, dywedodd Oliver Heald QC AS, y Cyfreithiwr Cyffredinol, y gallai penderfyniadau o dan y broses newydd arwain at arbedion o hyd at £10,000 i’r partïon ym mhob achos. Dywedodd hefyd fod ffermwyr tenant wedi gofyn am y diwygiad, a bod cefnogaeth gref i’r diwygiad o du’r Grŵp Diwydiant Diwygio Tenantiaethau, sef y grŵp cynghori sy’n cynrychioli landlordiaid a thenantiaid daliadau amaethyddol yng Nghymru a Lloegr.

13.     Nid yw’r gwelliannau yn cynnwys unrhyw bwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth, ac maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad i’r graddau y maent yn gymwys i faes Amaethyddiaeth a maes Tai o fewn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Gwelliannau i Ddeddf Bridio Cŵn 1973

13.     Mae gofyniad o dan Ddeddf Bridio Cŵn 1973 ar hyn o bryd i safleoedd trwyddedig sy’n bridio cŵn gadw cofnodion ysgrifenedig o’u geist bridio ac unrhyw dorllwythi y byddant yn eu cael.

14.     Byddai’r gwelliannau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Biliau Cyhoeddus ar 18 Mawrth 2014 yn dileu’r gofyniad hwn.

15.     Noda Llywodraeth Cymru mai diben y gwelliant yw lleihau’r baich ar fusnesau bach, gan y bydd yn dyblygu gofynion a geir yn Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014, y bwriedir eu gosod a’u gwneud cyn toriad yr haf. Ym mharagraff 15 o’r Memorandwm, noda Llywodraeth Cymru y bydd y rheoliadau’n cynnwys prosesau adnabod priodol, er enghraifft yr angen i gi gael microsglodyn cyn gadael safle bridio a’r angen i gadw cofnodion priodol ar fridio cŵn.

Gwelliannau i Ddeddf Bridio a Gwerthu Cŵn (Lles) 1999

16.     O dan Ddeddf Bridio a Gwerthu Cŵn (Lles) 1999, mae’n drosedd i ddeiliad safle bridio trwyddedig werthu ci i ddeiliad siop anifeiliaid anwes drwyddedig neu safle magu trwyddedig yn yr Alban, os nad yw’n gwisgo coler ag arni dag neu fathodyn adnabod pan fo’r ci hwnnw’n cyrraedd y prynwr. Yn yr un modd, mae’n drosedd i berchennog siop anifeiliaid anwes werthu anifail o’r fath.

17.     Byddai’r gwelliannau y cytunwyd arnynt gan y Pwyllgor Biliau Cyhoeddus yn dileu’r gofynion hyn.

18.     Ym mharagraff 14 o’r Memorandwm, mae Llywodraeth Cymru yn cadarnhau nad yw’r gwelliannau’n dileu’r gofyniad yng Ngorchymyn Rheoli Cŵn 1992 bod unrhyw gi mewn man cyhoeddus yn gwisgo coler ag arni enw a chyfeiriad y perchennog wedi’u hysgrifennu neu’u hysgythru.

19.     Yn yr un modd â’r gwelliannau i’r Ddeddf Bridio Cŵn, mae’r Llywodraeth o’r farn bod y darpariaethau’n ddiangen gan mai’r bwriad yw i’r rheoliadau bridio cŵn ei gwneud yn ofynnol i gŵn gael microsglodyn cyn gadael safle bridio beth bynnag, a byddai hynny’n fodd i adnabod y cŵn.

20.     Nid oes unrhyw bwerau i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth yn Neddf Bridio Cŵn 1973 na Deddf Bridio a Gwerthu Cŵn (Lles) 1999 ac mae’r gwelliannau o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad i’r graddau y maent yn ymwneud ag Iechyd Anifeiliaid o fewn Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.


 

Materion i’r Pwyllgor

21.     Mae paragraff 19 o’r Memorandwm yn nodi mai mantais defnyddio’r Bil hwn, yn hytrach na deddfwriaeth y Cynulliad, yw mai’r Bil yw’r dull deddfwriaethol mwyaf ymarferol a chymesur o wneud y darpariaethau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru. Mae’n nodi, "The proposed amendments are technical and non-contentious. In addition, the inter-connected nature of the relevant Welsh and English administrative systems mean that it is most effective and appropriate for the Bill provisions to be taken forward at the same time in the same legislative instrument."

22.     Dylid nodi mai’r Ysgrifennydd Gwladol sydd â’r pŵer i gychwyn Atodlenni’r Bil sy’n ymdrin â’r diddymiadau. Ef felly a fydd yn penderfynu pryd y bydd y darpariaethau hynny’n peidio â chael effaith.

23.     Yn Lloegr, ni fydd rheoliadau ynghylch microsglodion yn dod i rym tan fis Ebrill 2016, a bydd etholiad cyffredinol cyn hynny.

24.     Y drafferth, pan fo’r pŵer yn gyfan gwbl yn nwylo’r Ysgrifennydd Gwladol, yw ei bod yn debygol, o ystyried yr amserlen arfaethedig, y bydd yn dal i fod cyfnod pan fo’n rhaid i fridwyr cŵn a pherchnogion siopau anifeiliaid anwes yng Nghymru gydymffurfio â’r gofynion o dan y rheoliadau bridio cŵn newydd, yn ogystal â gofynion Deddf Bridio Cŵn 1973 a Deddf Bridio a Gwerthu Cŵn (Lles) 1999. Mae perygl hefyd, os bydd amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer y rheoliadau bridio cŵn yn newid, a bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cychwyn Atodlen berthnasol y Bil cyn y daw’r rheoliadau bridio cŵn i rym yng Nghymru, y byddai bwlch yn y gyfraith a fyddai’n galluogi bridwyr cŵn a pherchnogion siopau anifeiliaid anwes i brynu a gwerthu cŵn nad oes modd eu hadnabod nac olrhain eu hanes yn ôl i sefydliadau penodol.

Gwasanaeth Cyfreithiol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mai 2014